MAE rali flynyddol yr Ysgolion Sul, a drefnir gan Bwyllgor Egin Gwyrdd Cymanfa Bedyddwyr Penfro bob amser yn achlysur bywiog a hapus.

Ond yn ôl yn adborth a dderbyniwyd ar ôl y rali a gynhaliwyd eleni yn Hermon, Abergwaun, ar Fehefin 25, rali eleni oedd yr achlysur hapusaf erioed.

Tri bachgen ifanc – dau yn 19 oed a'r llall yn 21 oed – oedd siaradwyr gwadd yr oedfa ac mae'n si?r bod llawer o'r clod am awyrgylch hapus yr oedfa yn ddyledus iddynt hwy.

Roedd Aled Griffith, Brandon Smith a Cameron Jones wedi achub mantais ar 'flwyddyn gap' Undeb Bedyddwyr Cymru ac wedi treulio chwe mis mewn dwy eglwys yn Llanelli cyn mynd ar daith i Kolkotta gyda'r BMS.

Penderfyniad y bechgyn oedd cyflwyno dameg y Mab Afradlon i'r plant gydag Aled yn darllen y stori allan o beibl.net tra bod Brandon a Cameron yn actio allan y stori gyda chymorth y plant a alwyd allan i'r sedd awr ynghyd â Vivian, a oedd yn meimo rhan y tad.

Brandon wedyn fu'n gyfrifol am gyflwyno gwers y ddameg. Cyn diweddu'r cyflwyniad gwahoddwyd y plant i ddysgu cân newydd gydag Aled wrth y gitar.

Llywydd yr oedfa oedd y Parch Geraint Morse, gweinidog Croesgoch, ac roedd yr oedfa wedi dechrau modd arbennig iawn wrth i dri ifanc o Hermon gyflwyno'r rhannau arweiniol. Brawd a chwaer – Rhys ac Alaw Williams – fu'n gyfrifol am ddarllen dameg y Samariad Trugarog a gweddïwyd gan Mefin Hughes.

Pwrpas y cyfarfod oedd cyflwyno tystysgrifau a thocynnau anrheg i'r rhai a eisteddodd yr arholiad y cywaith neu'r cwis ar y maes llafur "Abraham: Ffrind Duw". Cymerodd 55 o blant ac ieuenctid ran o eglwysi Blaenffos, Cylch Carn Ingli, Ebeneser Dyfed a Solfach.

Roedd Mrs Eleanor Jones, yr arholwraig yn uchel iawn ei chanmoliaeth o safon gwaith y plant. Talodd deyrnged hefyd i'r athrawon oedd yn rhoi o'u hamser yn rheolaidd i'r plant.

Daeth y cyfarfod i ben yn orfoleddus drwy gyd-ganu "Cristion Bychain Ydwyf" gyda Helen Davies wrth yr organ.

Cyhoeddwyd y fendith gan Meilyr Tomos.