Cynhaliwyd ffair fwyd a chrefft yn neuadd Cilgerran i godi arian a'r gyfer y Sioe Arddwriaethol ym mis Awst.

Gwelwyd masnachwyr lleol ac ymwelwyr o bob man yn dod i siopa a chymdeithasu.

Cafwyd hefyd arddangosfeydd trefnu blodau a chreu siocled. Diolchwyd i bawb fu'n cefnogi y digwyddiad.

Cynhelir y sioe ar Awst 12 eleni.