UN O uchafbwyntiau blynyddol calendar Ysgol y Preseli yw’r seremoniau cadeirio a choroni a gynhelir i anrhydeddu beirdd ifanc yr ysgol ac eleni, ar Fawrth 1, fel rhan o ddathliadau G?yl Ddewi.

Llenwyd Theatr y Gromlech i’w hymylon ddwy waith yn ystod y dydd, y naill ar gyfer seremoni’r Ysgol Iau a’r llall ar gyfer yr Ysgol H?n.

Cyn y seremonïau, cafwyd gwasanaethau pwrpasol dan ofal disgyblion o flwyddyn 13 ar thema G?yl Dewi ac atgoffwyd pawb o werth a phwysigrwydd bod yn ddinasyddion cyfrifol a moesol dda ym mhob gweithgarwch. Bu'r cyfan o dan ofal Ffion Phillips, Carys Thomas, Gwern Phillips, Lowri James a Mrs Rhian Davies.

Testun y Gadair Iau oedd ‘Cofio’ a thestun y Goron Iau oedd ‘Walls'. Y bardd buddugol yn y Gymraeg oedd Annest Davies Blwyddyn 9 ac enillydd y Goron oedd Alice Poole Blwyddyn 8.

Dyfarnwyd yr ail safle yn y Gymraeg i Gethin Greenhalgh, Blwyddyn 9 ac yn gydradd drydydd oedd Seren Allen ac Emily Davies, eto o flwyddyn 9. Yn y gystadleuaeth Saesneg, dyfarnwyd yr ail wobr i Sara O’Connor a’r drydedd wobr i Megan Dooner, y ddwy o flwyddyn 8.

Y testunau i’r Ysgol H?n oedd ‘Aberth’ (Y Gadair) a ‘Walls’ (Y Goron). Y bardd buddugol yn y Gymraeg oedd Beca Davies o flwyddyn 13 a’r enillydd Saesneg oedd Rhiannon Morgan o flwyddyn 11.

Yn ail yng nghystadleuaeth y gadair oedd Megan Greenhalgh, blwyddyn 11 a rhannwyd y drydedd wobr rhwng Elen Roach (blwyddyn 12) ac Efa Bowen (blwyddyn 11). Yng nghystadleuaeth y goron, dyfarnwyd Ffion Thomas yn ail a Georgia Roberts yn drydydd, y ddwy o flwyddyn 10. Llongyfarchiadau i’r beirdd i gyd ar eu llwyddiannau ac i bob un o’r cystadleuwyr a gyfrannodd at gystadlaethau safonol.

Mrs Elizabeth John, cyn bennaeth Adran Gymraeg Ysgol y Preseli gafodd y gwaith o gloriannu ffrwyth llafur y beirdd yn y Gymraeg a Mr Matt Dickinson fu’n pwyso a mesur y cynigion Saesneg.

Canmolwyd ganddynt ansawdd uchel y cyfansoddiadau, aeddfedrwydd iaith a mynegiant y rhai ddaeth i’r brig, a brwdfrydedd amlwg yr holl ymgeiswyr. Diolchwyd iddynt am eu hynawsedd yn eu beirniadaethau a’u hanogaeth i’r beirdd ifainc barhau i ymarfer eu crefft.

Cafwyd cyfle i wrando ar gyfansoddiadau’r beirdd yn ystod y seremoniau. Mrs Rhian Davies a Mrs Eirian Wyn oedd yn darllen y cerddi Cymraeg a Mrs Ruth Cummins oedd yn cyflwyno’r cerddi Saesneg.

Bu Mr Dafydd Hughes yn llywio’r ddwy seremoni mewn modd urddasol, a Mr Trystan Phillips a Mrs Meleri Williams yn cyfeilio yn ystod y seremoniau gydag Alys Owens, Blwyddyn 10 yn canu’r corn gwlad.

Cafwyd datganiad swynol o Gân y Cadeirio gan Esyllt Thomas o flwyddyn 12. Cyrchwyd y beirdd i’r llwyfan gan Carys Thomas a Ffion Phillips a chyfarchwyd y beirdd buddugol gan Gwern Phillips.

Cyflwynwyd cadeiriau a choronau bychain o waith celfydd Mr Eurfyl Reed, Yr Adran Dechnoleg, i’r beirdd buddugol gan Mrs Iola Phillips, Dirprwy Bennaeth. Cyflwynwyd hefyd gopiau wedi’u fframio o’u cerddi i’r beirdd buddugol. Roed yr ochr dechnegol o dan ofal Mr Robert Thomas a Jamie Line o flwyddyn 10 a threfnwyd blodau hardd i addurno’r llwyfan gan Mrs Marie Williams.

Roedd trefniadau’r gwasanaeth a’r seremonïau dan ofal Mrs Eirian Wyn Jones.