CANLYNIADAU EISTEDDFOD GADEIRIOL CENARTH 2017

Cynhaliwyd eisteddfod lwydiannus arall eleni, a hynny ar ddydd Sadwrn, Ionawr 28. Roedd y cystadlu’n frwd a’r beirniaid yn gadarnhaol iawn eu sylwadau. Y beirniad llefaru oedd John Gwilym Jones, Peniel, a’r beirniad cerdd oedd Siw Jones o Felinfach.

Enillydd y Gadair oedd y Parchedig Judith Morris o Benrhyncoch, ac enillydd y Tlws Llenyddiaeth dan 19 oedd Nest Jenkins, Ynysforgan, Lledrod, Tregaron. Roedd y beirniaid yn llawn canmoliaeth o waith yr uchod, ynghyd a’r lliaws o gystadleuwyr eraill - dros 120 o weithiau llenyddol mewn cyfanswm.

Dyma’r canlyniadau eraill o’r eisteddfod:

CERDDORIAETH

Unawd oedran Meithrin: 1. Caleb King, Llandygwydd

Unawd Blwyddyn 1 a 2: 1. Naomi Davies, Cenarth; 2. Mali Davies, Abercych; 3. Poppy Dalsell, Cenarth a Phoebe Chatwin, Capel Newydd

Unawd dan 6 oed - Agored: 1. Gwennan Lloyd Owen, Llanllwni; 2. Gwion Dafydd Bowen, Boncath; 3. Poppy James, Caerfyrddin

Unawd 6 a than 9 oed: 1. Alwena Lloyd Owen, Llanllwni; 2. Peredur Hedd Llywelyn, Llandysul; 3. Beca Elen Curry, Capel Dewi, Caerfyrddin

Unawd 9 a than 12 oed: 1. Dafydd Jones, Llandysul

Unawd ar unrhyw offeryn cerdd dan 16 oed: 1. Luke Rees, Pontantwn; 2. Gwenno James, Crymych; 3. Alwena Lloyd Owen, Llanllwni

Canu emyn dan 15 oed: 1. Luke Rees, Pontantwn ac Alwena Lloyd Owen, Llanllwni

Alaw Werin dan 15 oed

1. Alwena Lloyd Owen, Llanllwni; 2. Luke Rees, Pontantwn, Cydweli

Can ysgafn fodern neu gan allan o sioe gerdd: 1. Luke Rees, Pontantwn, Cydweli

Her Unawd dan 25 oed: 1. Rhiannon Ashley, Castellnewydd Emlyn

Canu emyn dros 50 oed: 1. Gwyn Jones, Llanafan; 2. Marianne Jones Powell, Llandre; 3. Geraint Rees, Llandyfaelog a meredith George, Boncath

Canu emyn dan 50 oed: 1. Arwel Evans, Ffynnongroes;; 2. Rhiannon Ashley, Castellnewydd Emlyn

Her Unawd Agored: 1. Rhiannon Ashley, Castellnewydd Emlyn;; 2. John Davies, Llandybie; 3. Arwel Evans, Ffynnongroes; 4. Marianne Jones Powell, Llandre

Yr Hen Ganiadau/Unawd Gymraeg: 1. John Davies, Llandybie; 2. Arwel Evans, Ffynnongroes; 3. Marianne Jones Powell a Rhodri Evans, Aberystwyth

Deuawd: John Davies Llandybie a Marianne Jones Powell Llandre

Tlws yr Ifanc i’r cystadleuydd mwyaf addawol ym marn y beirniad yn yr adran gerdd o dan 18 oed: Alwena Lloyd Owen

LLEFARU

Lleol: 1. Celyn Fflur Davies, Llandyfriog; 2. Gruffudd Rhys Davies, Llandyfriog; 3. Caleb King, Llandygwydd

Llefaru Blwyddyn 1 a 2: 1. Dylan Pearce, Llandygwydd; 2. Naomi Davies, Cenarth a Mali Davies, Abercych; 3. Owen Monaghan, Llandygwydd

Llefaru Blwyddyn 3 a 4: 1. Gwern James, Cenarth; 2. Ifan Evans, Bryngwyn; 3. Rhys Monaghan, Llandygwydd

Llefaru Blwyddyn 5 a 6: 1. Sophie Davies, Cenarth; 2. Ffion Monaghan

Llefaru Agored dan 6 oed: 1. Gwennan Lloyd Owen, Llanllwni; 2. Gwion Dafydd Bowen, Boncath

Llefaru 6 a than 9: 1. Peredur Hedd Llywelyn, Llandysul; 2. Beca Elen Curry, Capel Dewi, Caerfyrddin; 3. Alwena Lloyd Owen, Llanllwni

Llefaru 12 a than 15 oed: 1. Luke Rees, Pontantwn, Llanelli

Darllen darn o’r Ysgrythur ar y pryd: 1. Maria Evans, Alltwalis; 2. Awen Evans, Ffynnongroes; 3. Rhiannon Ashley a Nest Jenkins

Llefaru dan 25 oed: 1. Nest Jenkins, Ynysforgan, Lledrod; 2. Luke Rees, Pontantwn, Llanelli

Her Adroddiad Agored: 1. Nest Jenkins, Ynysforgan, Lledrod; 2. Maria Evans, Alltwalis

Tlws yr Ifanc i’r cystadleuydd mwyaf addawol ym marn y beirniad yn yr adran llefaru dan 18 oed: Luke Rees

Tarian Her er cof am Howell Jones i’r eitem a roddodd y mwynhad mwyaf i’r beirniad mewn unrhyw gystadleuaeth: Rhiannon Ashley

LLENYDDIAETH

Brawddeg o’r gair WALDO: Carys Briddon Tre’r-ddol a Megan Richards, Aberaeron

Englyn Ysgafn ‘Corwg’: Ieuan James, Crymych

Neges o’r llythyren 'T’: Megan Richards, Aberaeron a Catrin Evans, Bryngwyn

Limrig ‘Daeth menyw yn ail Brifweinidog’: Gwyn Roberts, Ynys Mon a Mary B Morgan, Llanrhystud

ARLUNIO

Meithrin 1 a 2: 1. Laura Thompson Brook, Cenarth; 2. Kaylee Pickover, Beulah; 3. Mali Davies, Cenarth

Blwyddyn 3 a 4: 1. Georgia Smith, Cenarth; 2. Rhys Monaghan, Llandygwydd; 3. Daisy Davies, Beulah

Blwyddyn 5 a 6: 1. Ffion Monaghan, Cenarth; 2. Poppy Evans Strudwick, Cenarth; 3. Billie Jo Brightma, Cenarth

Sgets a phensil o’r ysgrifenyddes Julia James: 1. Terry Reynolds, Hermon Glog; 2. Siriol Howells, Ysgol Bro Teifi, Llandysul