DYFRIG John CBE oedd Llywydd Anrhydeddus Eisteddfod Gadeiriol Maenclochog ar wyl y banc ddechrau mis Mai.

Fe'i magwyd yn ardal Rhydwilym. Treuliodd ei yrfa ym myd bancio ar draws y byd gan ddal swyddi uchel. Roedd yn un o aelodau cynhara y grwp Doughie Band pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol y Preseli.

Soniodd fel yr oedd sefyll ar lwyfan Steddfod Maenclochog pan oedd yn grwt wedi rhoi hyder iddo maes o law i sefyll o flaen torf o filoedd wrth annerch cynrychiolwyr y diwydiant arian. Bellach mae'n rhannu ei amser rhwng Penarth a Thudr'ath.

Y beirniaid oedd Helen Wyn, Brynaman; Elin Williams, Cwmann ac Idris Reynolds, Brynhoffnant.

Lluniwyd logo newydd Eisteddfod Maenclochog gan Aled Lloyd, Frondeg, Rhos-y-bwlch. Mae'r gloch, y nodau a'r garreg bigfain yn symbolau sy’n dynodi yr hyn yw hanfod Maenclochog.

Gwnaed y logo yn faner fawr i'w hongian y tu ôl i'r llwyfan. Mae'r ffaith fod yna logo newydd wedi'i ddylunio a hynny gan blentyn mor ifanc yn ernes y bydd yr eisteddfod yn parhau am ache eto. Eleni oedd yr unfed ar ddeg a thrigain i gael ei chynnal.

Enillwyd cadair Eisteddfod Maenclochog gan Endaf Griffiths, myfyriwr 22 oed o Goleg Prifysgol Aberystwyth a Chwmsychpant ger Llanbed. Gwnaed y gadair gan saer lleol, Carwyn Phillips.

Enillwyd Tlws yr Ifanc gan Sioned Martha Davies o Bencader. Roedd yno gystadlu safonol a brwd gydol y dydd.