MAE’R Cymry wedi dangos eu cariad at y Gymraeg mewn sawl ffordd dros y canrifoedd ac ym mis Gorffennaf eleni bydd Ras yr Iaith yn rhoi’r cyfle i ni ddathlu’r iaith drwy fod yn rhan o ras hwyl gyfnewid wrth iddi redeg o Fangor i Landeilo.

Nid ras i athletwyr yw Ras yr Iaith ond ras dros y Gymraeg gan bobl Cymru. Ei phwrpas yw dathlu’r Gymraeg, codi ymwybyddiaeth o’r iaith a dangos i’r byd fod cefnogaeth i’r Gymraeg ar lawr gwlad. Cynhaliwyd y Ras gyntaf yn 2014.

Bydd unigolion, teuluoedd, busnesau neu glybiau lleol, sefydliadau ac ysgolion yn noddi ac yn rhedeg 1 cilomedr gan gario baton. Bydd y baton wedi ei gerfio’n arbennig i’r ras ac yn cael ei drosglwyddo o law i law, wrth i redwyr ddangos eu cefnogaeth i’r iaith.

“Mae’n amser i garedigion y Gymraeg ddod at ei gilydd, a dangos ychydig o hwyl dros yr iaith. Bydd Ras yr Iaith yn ffordd wych i dynnu pobl at ei gilydd a dathlu ein bod ni yma o hyd!” meddai Siôn Jobbins sydd wedi rhedeg yn y rasys llwyddiannus tebyg dros y Llydaweg, Gwyddeleg a Basgeg.

Bydd y Ras yn cyrraedd Castell Newydd Emlyn ar ddydd Iau, Gorffennaf 7, ac yn cyrraedd Caerfyrddin a San Clêr ar y dydd Gwener a bydd cyfle i chi fod yn rhan o’r dathliadau.

Menter Gorllewin Sir Gâr sydd yng ofal y trefniadau yn y dref ac “mae’n gyfle gwych i ddathlu’r Gymraeg a thynnu pobl o bob cefndir at ei gilydd i gefnogi’r iaith boed yn siaradwyr Cymraeg, dysgwyr neu’n ddi-Gymraeg” meddai Nia o’r Fenter. Mae cyfle i bawb yn y gymuned gefnogi’r ras trwy naill redeg, noddi cilomedr neu stiwardio ar y dydd. Am fwy o fanylion cysylltwch â Nia ar 01239 712934 neu nia@mgsg.cymru