MAE Pwyllgor Cyfeillio Castellnewydd Emlyn a Plonovez-Porzay yn Llydaw, Ffrainc yn ysu cael rhagor o deuluoedd lleol i ymuno â nhw. Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn Nhafarn yr Arad, yn y dref ar ddydd Iau, Mawrth 3, am 8 o’r gloch ac mae’r pwyllgor brwd yn awyddus i ddenu aelodau newydd ac ifanc gan fod nifer o’r aelodau wedi bod ynghlwm ers dros ugain mlynedd bellach.

"Roedd Castellnewydd Emlyn yn dathlu 25 mlynedd o berthynas y llynedd ac ymweliadau gan deuluoedd Plonovez-Porzey. Eleni, mae’n 25 mlynedd ers i gymuned y dref ymweld â Llydaw ac wrth gwrs mae’r Llydäwyr yn awyddus i ddathlu," esboniodd Nia ap Tegwyn a wnaeth ymaelodi â’r pwyllgor y llynedd.

Ychwanegodd: "Mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i gynnal y berthynas rhwng y ddwy wlad er mwyn parhau a chodi proffil ein cysylltiadau Celtaidd a’r cyfeillgarwch sydd wedi tyfu dros y blynyddoedd."

Fe wnaeth Nia, ei gwr Rhys a’r plant Teleri a Mared fwynhau’r profiadau euraidd a gawsant yn ystod y cyfeillio ac mae’n annog i bobl i ymuno â’r pwyllgor er mwyn sicrhau dyfodol y berthynas.

"Fel rhywun newydd i’r criw cyfeillio nes i fwynhau’r profiad yn fawr iawn wrth weld diwylliant y Llydäwyr. Roedd hi’n hyfryd i gymryd rhan yn yr orymdaith o amgylch y dref gyda’r Llydäwyr a’r Cymry yn eu gwisgoedd traddodiadol.

"Mae’n braf bod y to ifanc yn cael profi diwylliant a thraddodiadau gwahanol a bum yn lwcus iawn i gael teulu hyfryd yn aros gyda ni ac rydym yn edrych ymlaen at fynd yn ôl atynt. Mae’r trefnwyr yn gweithio’n galed iawn i sicrhau eu bod yn dewis teuluoedd o’r ddwy wlad sy’n gweddu ei gilydd ac yn wir, maent yn gwneud jobyn penigamp!" gorffennodd Nia.

Os yr ydych am fod yn rhan o’r pwyllgor neu am ragor o wybodaeth, ewch i’r cyfarfod yn Nhafarn yr Arad am 8pm ar Fawrth 3.