Llandysul

PWYLLGOR LLES TREGROES: Cafwyd bingo llwyddiannus iawn yn Nhregroes ar nos Fawrth, Tachwedd 17eg yn yr ysgol er budd y pwylllgor a lles gyda phawb yn mwynhau chwarae ac ennill er gwaethaf y gwynt cryf a`r glaw. Diolch i bawb a fentrodd allan ac a'n helpodd ni i godi £100.

SIOE PRENGWYN: Cafwyd swper blynyddol y sioe yn Nhafarn Gwarcefel Arms ar nos Sadwrn, Tachwedd 14eg pan y cyflwynwyd siec o £2,300 tuag at Ty Hafan i Miss Michelle Kirkham. Diolch iddi am ddod ac i bawb a gefnogodd y sioe a`r swper, hefyd i bawb wnaeth gyfrannu y gwobrau raffl.

EGLWYS TREGROES: Ar nos Sadwrn, Tachwedd 14eg fe gyflwynodd Mrs Mair Davies siec o £285 i Ty Hafan i Miss Michelle Kirkham sef elw canu cynulleidfaol yn yr eglwys. Diolch i bawb a gefnogodd y noson.

CYNGERDD YN Y PORTH: Ar nos Sadwrn, fe ddaeth llawer ynghyd am gyngerdd arbennig i godi arian. Da oedd gweld pawb yn cefnogi ac yn mwynhau.

TREGROES LUNCH: If you would like to join us at the Christmas lunch on December 8th please contact Beth as soon as possible - first come first served 07901 716957. Limited places this year.

MOTOR CLUB: Llandysul Motor Club AGM takes place on December 10 at 8pm at the Porth Hotel Llandysul. All welcome.

SIOE LLANDYSUL: Ni fydd cyfarfod ym mis Rhagfyr ond cynhelir y cyfarfod blynyddol ar nos Fawrth, Ionawr 12fed am 8 yn y Porth

SUNDAY SERVICES: United deanery service at Newcastle Emlyn at 10.30p.m. with the guest preacher Canon Steward Bell. Llandsyul - every Wednesday communion 10.30a.m.

PLYGAIN: Ar nos Fercher, cafwyd gyfarfod i drefnu noson arbennig o'r plygain. Bydd y plygain ar nos Fercher, Rhagfyr 23ain yn eglwys Llandysul am 7 o'r gloch lle bydd yr holl eglwysi yn dod at ei gilydd i ganu ac i ddathlu'r Nadolig. Bydd ymarfer cyntaf ar nos Fercher, Tachwedd 18fed am 6.30y.h. yn neuadd eglwys Llandysul. Dewch i ymuno gyda ni.

Canu yng nghapel Horeb 13/12/15 7 o'r gloch arian tuag at ward y plant Glangwili.

Canu carolau o gwmpas y pentre 21/12/15 dechrau am 6 o'r gloch.

NEUADD LLANFIHANGEL AR ARTH: son werin gyad Ceri Matthews a Julie Murphy - hen ganeuon ar eu newydd gwedd ar 13/11/15 yn neuadd yr ysgol 7.30pm.

Ffair Nadolig nos Fercher, Tachwedd 25ain am 6.30p.m.

Yr wyl ddrama - pobl yr ymylon yn cael ei pherfformio yn Neuadd yr ysgol nos Iau, Tachwedd 19eg am 7.30y.h.

Eisteddfod Llanfihangel ar Arth yn ysgol Pencader ar Chwefror 27ain i ddechrau am 10y.b. am raglenni ffoniwch 01559 362215 neu 01559 384266.