BYDD 25 o aelodau h?n yr Urdd yn teithio i ochr arall y byd ar ddiwedd y mis ar daith fythgofiadwy i Batagonia.

Hon fydd yr ail daith i’r Urdd drefnu i Batagonia eleni, sy’n cyd-fynd gyda dathliadau 150 mlynedd ers i’r fintai gyntaf lanio. Fyddant yn treulio 10 niwrnod ym Mhatagonia o Hydref 21-Tachwedd 3, ac yn gwneud gwaith gwirfoddol megis helpu yn yr ysgol feithrin Gymraeg, gweithgareddau adeiladu tîm ac ymweld gyda’r henoed sy’n siarad Cymraeg yno.

Cafodd y 25 eu dewis allan o dros 100 o geisiadau, gyda’r rhesymau am wneud cais yn amrywio – un wedi ei chyfareddu gyda straeon ei hathrawes ddosbarth am y Wladfa; un arall gyda theulu yno nad yw erioed wedi eu cyfarfod ac amryw yn dymuno mynd allan i gael blas o’r diwylliant a chynnig cymorth ac ysbrydoliaeth i’r bobl ifanc allan yno siarad Cymraeg.

Yn mynd ar y daith o'r ardal hon fydd Catrin Haf Evans a Carwyn Hawkins, Ysgol Aberaeron, Siriol Ifan, Ysgol Dyffryn Teifi, Eurgain Haf Wyn a Holly Evans o Ysgol y Preseli.

Mae pawb wedi llwyddo i godi £2,400 yr un i fynd ar y daith. Roedd y gweithgareddau codi arian yn amrywio o gynnal cyngerdd a bore coffi yn yr ysgol i gael eu noddi i wneud sky-dive.

Meddai Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr yr Urdd: "Eleni, bydd 41 o bobl ifanc wedi cael cyfle i deithio i’r Wladfa gyda’r Urdd – aeth rhai ym mis Awst, ar daith gyda chynhyrchiad y Mimosa a nawr rydym yn cynnig y daith hon ar y cyd gyda Mentrau Iaith Cymru.

"Yn ystod y flwyddyn mae dros 500 o aelodau wedi cael cyfle i deithio i wledydd megis Ffrainc, yr Eidal a Chatalonia gyda’r Urdd. Profiadau fydd yn aros yn eu cof am byth."