Gan Anwen Francis

'SÔN am Sgandal' - sioe wych wreiddiol yn llawn bwrlwm a lliw gan ieuenctid Aberteifi a’r cylch wedi ei selio ar bapur bro yn cael trafferthion oedd dechrau adloniant Gwyl Fawr Aberteifi eleni.

Gyda neuadd Ysgol Uwchradd y dref dan ei sang am ddwy noson, roedd sioe CICA yn gychwyn arbennig i weithgareddau' r wythnos.

Am y tro cyntaf erioed cynhaliwyd seremoni agoriadol yr Wyl, gyda’r cyfranogwyr yn dechrau o neuadd y dref ac yn gorymdeithio drwy’r stryd i Gastell Aberteifi. Syniad y cadeirydd Non Lewis oedd hyn, ac roedd hi’n llwyddiant ysgubol gan ddod â’r Wyl i ganol y dref a chodi ymwybyddiaeth ei bod yn digwydd.

"Dw i’n falch ein bod ni wedi llwyddo i gynnal seremoni agoriadol yn y dref a gobeithio y byddwn ni’n medru parhau i wneud hynny yn y dyfodol. Roedd hi’n seremoni liwgar ac yn sicr yn denu sylw pobl," esboniodd Non sydd hefyd wedi bod yn is-ysgrifennydd am 15 mlynedd.

Cytuno hefyd wnaeth y gwr busnes yn y dref, Geraint James o Siop Awen Teifi, a oedd yn gyfrifol am roi’r gadair i’r Eisteddfod eleni.

"Mae’n beth da wrth reswm. Mae unrhyw gyhoeddusrwydd yn dda ac roedd ‘na naws bod rhywbeth mawr yn digwydd yma i drigolion lleol ac i ymwelwyr," esboniodd Geraint yn frwd.

Ar benwythnos yr Eisteddfod, gwelwyd saith parti yn cystadlu yn y gystadleuaeth partion Dawnsio Gwerin, sef pum parti yn fwy nag y llynedd a’r rheiny yn dod o ardal eang iawn. Roedd mwy o gystadleuwyr na’r arfer mewn nifer o gystadlaethau unigol hefyd, megis y Lieder neu’r Gân Gelf a’r Her Unawd - y Rhuban Glas.

Gwelwyd chwe pherson yn ceisio am y gadair, y gadair wedi ei gwneud gan y saer lleol Tecwyn James o Frynberian, ac yn rhoddedig gan deulu’r James, Awen Teifi yn y dref ac wedi ei selio ar thema’r castell gyda’r afon a’r castell wedi ei chrefftio’n amlwg arni.

Yn fuddugol, oedd y dyn lleol o Landudoch, Iwan Davies sydd wedi graddio o Brifysgol Caergrawnt ac sydd newydd dderbyn ysgoloriaeth i barhau gyda’i astudiaethau. Wrth farnu'r gystadleuaeth nododd y prifardd Ceri Wyn Jones bod pedair o'r cerddi ar y thema 'Dirgelion' yn teilyngu cael eu cadeirio.

Ganol wythnos, cynhaliwyd cystadleuaeth Talwrn y Beirdd yng Nghastell Aberteifi dan ofal y meuryn Tudur Dylan Jones. Gwelwyd pedwar tîm yn cystadlu gyda Ffostrasol yn fuddugol ac yn ennill tarian goffa Dic Jones.

Yn ôl yr ysgrifennydd, Des Davies, roedd Gwyl Fawr Aberteifi fel yr arfer, yn llwyddiant ysgubol.

Meddai Des: "Roedd hi’n Wyl dda iawn ac aeth popeth yn hwylus. Roedd mwy o gystadleuwyr unigol eleni - newyddion da wrth gwrs. Roedd safon y cystadlu yn uchel iawn a’r beirniaid oll yn canmol y perfformiadau."

Ychwanegodd Non: "Cawsom Eisteddfod arbennig o dda eleni eto a braf oedd gweld Ar Ôl Tri yn ennill cystadleuaeth y Côr Meibion ac yna’n mynd ymlaen i ennill Côr yr Wyl am y tro cyntaf.

"Nos Sul, dros ddeng mlynedd ers diddymu'r côr rwy'n hynod falch ein bod wedi llwyddo i gael côr Cantorion Teifi yn ôl at ei gilydd ar gyfer cyngerdd aduniad gwefreiddiol yng nghwmni Côr Godre'r Aran a'r unawdydd , y soprano Heulen Cynfal. Clo teilwng iawn i Wyl arbennig."