AETH Holly Megan Evans o Faenclochog i Frwsel gyda’r Urdd yn dilyn ei pherfformiad yng nghystadlaethau siarad cyhoeddus Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch. Cafodd Holly ei dewis gan y beirniaid, Richard Morris Jones, fel y un o ddwy mwyaf addawol yn y cystadlaethau siarad cyhoeddus.

Roedd hi’n cystadlu fel rhan o dîm a’i phartner oedd Sian Elin o Aelwyd Pantycelyn a Holly yn cynrychioli Ysgol y Preseli.

Yn ystod eu deuddydd ym Mrwsel, treuliodd y ddwy gyfnod yn cysgodi Mr Tom Jones, cynrychiolydd Cymru a’r Deyrnas Unedig yn y Cyngor Economaidd a Chymdeithasol. Fe wnaethant hefyd ymweld â’r Senedd Ewropeaidd, a swyddfa Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan gwrdd ag aelodau o’r staff.

Mae Mr Tom Jones yn teimlo fod cystadlaethau siarad cyhoeddus yn werthfawr iawn. Dywedodd, “Mae cystadlaethau fel hyn yn hynod bwysig er mwyn meithrin cyfathrebwyr clir. Mae’n sgil hanfodol mewn bywyd, gyda nifer o wynebau cyhoeddus wedi bwrw eu prentisiaeth yn siarad cyhoeddus ar lwyfan yr Urdd neu gyda’r Ffermwyr Ifanc. Roedd cyfle i glywed gwahanol bobl yn gosod eu safbwyntiau mewn gwahanol ieithoedd yn brofiad da ac ychwanegol iddynt.”

Mae Holly a Sian Elin yn hen law ar siarad cyhoeddus, a’r ddwy wedi cystadlu gyda’r Ffermwyr Ifanc a’r ysgol yn y gorffennol. Dyma oedd y flwyddyn gyntaf i Holly gystadlu yn yr Urdd.

Dywedodd Holly, “Dwi wedi cystadlu nifer o weithiau gyda’r Clwb Ffermwyr Ifanc, yr ysgol a’r clwb roteri ond dyma oedd y tro cyntaf i mi gystadlu gyda’r Urdd. Fel arfer, rydw i’n paratoi araith ac yn ei pherfformio ond yn yr Urdd rydych yn cael y testun a pherfformio yn syth fel tîm – gan gyfiawnhau dadl yn erbyn y tîm arall. Roedd yn brofiad gwych!”