Ar Fawrth yr 2il aeth un ar hugain o'r aelodau ar fws i Landysul i Ganolfan Telynau Teifi,lle cafwyd sgwrs ddifyr a phwrpasol gan Mr John Jones - yn olrhain hanes y cwmni a sefydlwyd gan Mr. Allan Shiers a sydd erbyn heddiw yn gwerthu tua wyth telyn fforddiadwy bob mis.

Wedyn cafwyd swper blasus yn 'The Daffodil' Penrhiwllan Inn, ble cyhoeddodd Glenda bod y gangen wedi derbyn arian Loteri 'Arian i Bawb' i wario ar deithiau o gwmpas Cymru.

Bydd y cyfarfod nesaf ar nos Lun Ebrill y 6ed am 7.30 y.h. yng Nghanolfan Goffa Lland'och pan fydd Mrs. Beryl George, Boncath yn siarad gyda ni ynglyn a'i Gwaith Llaw. Croeso i bawb.