Ar nos Lun Ionawr 5ed daeth nifer sylweddol o'r aelodau -er y tywydd oer - i wrando ar Mr. Alun Ifans yn disgrifio ei deithiau tramor yn ei ffordd egniol unigryw. Bu'n dysgu Cymraeg yng Nghanada a'r Unol Daleithiau; ymysg ei fyfyrwyr roedd dwy chwaer oedd yn magu corgwns, ac eisiau dysgu Cymraeg er mwyn medru siarad a'r cwn. Cafwyd disgrifiadau bywiog o'i wersi Saesneg yn Lesotho. Y nifer mwyaf o blant mewn un wers oedd dau gant a deg a hynny heb dim problemau disgyblaeth. Mwynhaodd pawb y storiau difyr. Melrose oedd ennillydd y raffl. Llinos ag Esther gwnaeth paratoi y te.

Ar nosIau Ionawr 29ain 'rydym yn ymuno a changen Mwnt yn yr Hen Ysgol Ferwig am 7.30y.h. a bydd Dewi Pws a'i wraig, Rhiannon yn ein diddanu ni. Ffoniwch Dilys ar 614920 i drefnu trafnidiaeth.

Ar nosLun Chwefror 2ail bydd Mr.Eirwyn Davies y Paramedic yn siarad a ni yn Neuadd Goffa Llandudoch am 7.30y.h. Croeso i bawb.