Cynhelir Noson o Ddawns - Twmpath ac Arddangosfa yng nghwmni Dawnswyr Talog yng Ngwesty'r Emlyn Arms nos Wener 18fed am 7 o'r gloch. Mynediad (i'w dalu wrth y drws) yn £5 i oedolion a £2 i ddisgyblion ysgol gynradd. Cyflwynir elw'r Noson i Gronfa Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ceredigion 2010.