Cynhelir Cwrdd Diolchgarwch Undebol yr Ofalaeth ym Methel prynhawn dydd Sul nesa' am 2 o'r gloch, pryd y gwasanaethir gan y Parchg. Steven Evans. Bydd yr Oedfa hwyrol yn Ebeneser am 5 nos Sul 20 yng ngofal y Parchg. Ddr. Felix Aubel. Disgwylir Nesta George i wasanaethu yn Y Graig nos Sul nesa' am 5.