MAE Ysgol T Llew Jones yn falch iawn i gyhoeddi y byddant yn creu prosiect arbennig er mwyn dathlu can mlynedd ers geni T Llew Jones.

Gyda llu o ddigwyddiadau yn dathlu bywyd a gwaith yr awdur gwych yn ystod 2015 roedd yr ysgol hefyd eisiau nodi’r achlysur mewn modd teilwng a chyffrous.

Felly aethpwyd ati i gyflwyno cais i Gyngor Celfyddydau Cymru, gyda chefnogaeth cynghorau cymuned lleol, er mwyn medru creu prosiect arbennig gyda’r plant a Chwmni Theatr Arad Goch.

Mae Arad Goch yn gwmni sy’n arbenigo mewn creu theatr i blant a phobl ifanc a bu’r cwmni yn teithio cynhyrchiad o ‘Lleuad yn Olau’ eleni fel rhan o ddathlu T Llew Jones.

Bu’r cais yn llwyddiannus ac felly bydd Jeremy Turner, cyfarwyddwr artistig Arad Goch, yn cyd-weithio gyda’r holl ddisgyblion er mwyn creu perfformiad o’r enw ‘Dawns y Dail’.

Mae pawb yn yr ysgol yn edrych ymlaen yn fawr at y prosiect a bydd ‘Dawns y Dail’ yn cael ei lwyfanu yn neuadd yr ysgol ar y dyddiadau canlynol: Nos Iau, Tachwedd 19, am 7yh; dydd Gwener, Tachwedd 20, am 1.30yp, a nos Wener Tachwedd 20, am 7yh.

Mae croeso mawr i’r gymuned gyfan o bell ac agos ddod i fwynhau perfformiad. Pris y tocynnau yw £3 ac maen’t ar gael o’r ysgol, gellir ffonio 01239 654 553 i’w archebu.