Cafwyd gyfarfod buddiol ar nos Fawrth ac fe wnaed llawer o drefniadau ar gyfer y pethau sydd yn mynd i ddigwydd yn ystod rhan olaf o`r flwyddyn.

Yn gyntaf mi fydd yna yrfa chwist yn y cartref ar nos Fawrth, Hydref 27ain am 8 o`r gloch yna mi fydd yna fingo yn y Kings Arms ar nos Fercher Tachwedd 18fed am 8 o`r gloch ac yna mi fydd y parti Nadolig ar y 10fed o Rhagfyr yn y cartref pan y bydd Sion Corn yn ymweld a`r trigolion.