Cafwyd ganu cynulleidfaol hyfryd iawn nos Sul Medi`r 6 dan arweiniad Miss Einir Ryder. Roedd pawb yn canu`n dda ac yn mwynhau. Y gwr gwadd oedd Mr Peter Davies, Maesymeillion, a da oedde gweld yn ol yn yr ardal ac yn rhoi araith ddiddorol a phwrpasol iawn. Yr artistiaid gyda`u llais swynol oedd Cwmni`r Gors a chafwyd eitemau hyfryd iawn gan y parti ifanc yma.