Ar nos Sul yn dilyn Sioe Castellnewydd Emlyn cafwyd noson arbennig yn y Babell, a da oedd gweld cymaint wedi dod ynghyd i glywed ac i ymuno yn y canu. Arweinydd y noson oedd Mr Brian Walters a Llywydd y noson oedd mr Glyn Davies, diolch iddynt am ei presenoldeb ac am y rhodd anrhydeddus a rhoddwyd. Yr artistiaid oedd Cor Bro Eurwin a’r arweinyddes oedd Bethan Evans gyda Sally Davies wrth yr organ.

Cawfyd eitemau hyfryd iawn gan Kees. Diolch i bawb a gryfanodd tuag at y noson. Gorffennwyd gyda lluniaeth yn y Babell a diolch i deulu Pantrodyn ac i Mr Orwig Williams. Noson arbennig iawn a diolch arbennig i bawb am ddod i gefnogi.

Enillwyr y raffl oedd Elenor Colbourne, Gareth James a Gwynne Davies. Mi fydd y pwyllgor nesaf ar nos Wener, Gorffennaf 31ain ym Mlaenglwon, Talgarreg i wneud trefniadau ar gyfer y ddawns ar Awst y 7fed, dewch i gefnogi.