AR nos Lun, Medi 14, fe croesawodd Mabel Adams aelodau Merched y Wawr Glannua Teifi yn ôl i Gwesty’r Porth i ddechrau tymor newydd. Cyn eistedd i wledda fe ddosbarthwyd arian i dair elusen, £500 i Ambiwlance Awyr Cymru, £500 i Canolfal Ddwr Llandysul a £200 i Apêl Nepal gan bwyllgor y flwyddyn flaenorol dan lywyddiaeth Ann Phillips.

Ein gwr gwadd am y noson oedd Mr Aneurin Roberts a ddaeth i dderbyn y siec ar ran yr Ambiwlance Awyr a fu wedyn rhoi cefndir yr elusen a’i gwaith. Diolchwyd iddo gan Helena Lewis. Roedd y raffl yn roddedig gan Helena Lewis a’r enillydd oedd Carol Bundock.

Mis nesaf, nos Lun, Hydref 12, mi fydd Amy Hiddleston-Morgan yn siarad am gwn tywys i’r byddar.