Cyflwynwyd tariannau teilyngdod yng Ngwasanaethau Hyn yr Ysgol, ar 25ain Medi, ac Iau, ar 28ain Medi. Enillwyr y tariannau oedd: tarian "Y Llien Gwyn" – Jade Griffiths, Bl 12; tarian "The County Echo" – Ffion Williams, Bl 11; tarian Mr Joe D’Cruz – Ryan Williams, Bl 10; tarian Mrs Bennett Howell – William Thomas, Bl 9; a tharian "The Western Telegraph" – Lucy Reason, Bl 8. Hoffwn ddiolch i Mr Jac Williams, Mr Joe D’Cruz, Mrs Bennett Howell a Miss Anwen Humfrey am gyflwyno’r tariannau, ac am eu cefnogaeth. Llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr ar eu hymroddiad i’w gwaith yn ystod 2008-9, a phob dymuniad da am eleni. Da iawn,wir.