Yn ystod yr wythnos ddiwethaf bu disgyblion Ysgol Bro Gwaun yn brysur iawn yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd a gynhaliwyd eleni ym Mae Caerdydd. Ar Ddydd Mercher Mai 27ain, bu Catrin Raymond yn cystadlu ar yr Unawd Alaw Werin blynyddoedd 7-9, a bu Catherine Daniel yn cystadlu ar y Llefaru unigol i ddysgwyr blynyddoedd 7-9.

Ar Ddydd Iau Mai 28ain, bu’r Gr_p Llefaru i Gymry yn cystadlu gyda 24 o grwpiau yn y rhagbrawf yn ceisio cael llwyfan. Yr Unawd i flynyddoedd 7-9 oedd y gystadleuaeth y bu Catrin Raymond yn ceisio arni ar Ddydd Iau, ac yn cael llwyddiant y tro hwn. Nid yn unig llwyddo i gael llwyfan, ond llwyddodd Catrin i gipio’r wobr gyntaf hefyd.

Ar Ddydd Gwener y 29ain mentrodd y Côr i flynyddoedd 13eg ac iau i faes yr Eisteddfod. Roedd yna 13 o gorau yn cystadlu yn y rhagbrawf, ac yr oedd hi’n gystadleuaeth o safon uchel iawn. Bu Jason Venables-John hefyd yn cystadlu ar yr Unawd piano i flynyddoedd 10 a than 19 oed. Cafwyd perfformiad da iawn ganddo ac ystyried yr oedd yn un o’r rhai ifancaf yn y gystadleuaeth.

Llongyfarchiadau a da iawn i bawb ar eu perfformiadau yn yr Eisteddfod. Diolch hefyd i holl staff yr ysgol fu’n hyfforddu’r disgyblion, ac i’r rhai fu’n cynorthwyo yn ystod wythnos yr Eisteddfod.