Yn ystod yr wythnos diwethaf mae disgyblion Ysgol Bro Gwaun wedi bod yn brysur iawn yn cystadlu yn Eisteddfodau Sirol yr Urdd. Cynhaliwyd Eisteddfod Offerynnol y Sir nos Iau 19eg o Fawrth yn Neuadd Treletert. Yno bu Jason Venables-John yn llwyddiannus yn y gystadleuaeth piano i flynyddoedd 10 i 13, a chafodd Amelia Johnson yr un llwyddiant yn y gystadleuaeth telyn i flynyddoedd 10 i 13. Cynhaliwyd yr Eisteddfod ddawns yn Ysgol Uwchradd Bro Gwaun, Abergwaun ar nos Fawrth y 17eg, a’r Eisteddfod Uwchradd ac Aelwydydd yn Ysgol y Preseli ar y 13eg o Fawrth. Cafodd pawb hwyl dda iawn ar y dawnsio yn unigol ac mewn grwˆp, a’r safon yn uchel iawn. Llwyddodd Corey Harries i gael cyntaf yn ei gystadleuaeth o ddawnsio disgo unigol i flynyddoedd 10 -13. Da iawn i bawb a gymerodd rhan.

Yn yr Eisteddfod llefaru a chanu, cafodd Catrin Raymod lwyddiant yn yr Unawd i flynyddoedd 7-9, ac yn yr un modd yn y gystadleuaeth Alaw Werin i flynyddoedd 7-9. Dyma’r tro cyntaf i’r Ysgol geisio ar gystadleuaeth i Gôr Merched a’r ensembl lleisiol, ac unwaith eto cafodd y grwpiau ganmoliaeth am ei sain hyfryd.

Pob lwc i bawb fydd yn cynrychiolu’r ysgol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd yn mis Mai, a diolch i Miss George am wneud y trefniadau.