Grochwyl braf ar ran y llywydd Sally Jones oedd croesawu dwy aelod newydd - Beryl Green a Carys Rees i gyfarfod cynta’r tymor.

Roedd y neuadd fach yn llawn i wrando ar Margaret Daniel yn son am y daith i’r Ariannin a Phatagonia yn Hydref 2008. Gyda chymorth Brian yn dangos y lluniau o’i gyfrifiadur cawsom ddarlith arbennig o diddorol ac addysgiadol, yn hanesyddol, yn ddaearyddol, yn ddiwylliannol a chymdeithasol.

Cludwyd ni o foethusrwydd Buenos Aires i dlodi’r cabanau wrth droed yr Aandes; synnwyd bawb gan noethni’r paith ar y daith. Hyfryd oedd gweld y cymdeithasu a oedd yn rhan mor bwysig o’r ymweliad: seremoni’r orsedd, y gymanfa ganu, rhannu’r "mate" y te llesol hwnnw! (Heb anghofio’r gwledda diderfyn ym mhob man!) Diolchwyd i Margaret am gychwyn ardderchog i’r tymor gan June Lloyd Jones.

Fe a’r merched i Henllan ym mis Hydref i weld Eglwys y Carcharorion yno; bydd Jon M Jones yn tywys y criw o gwmpas gan roi’r hanes am adeiladu’r allor a’r gwaith celf rhyfeddol a wnaed gan y bechgyn o’r Eidal.