Daeth tymor June Lloyd Jones fel llywydd i ben yn y cyfarfod blynyddol.

Diolchodd o bawb am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth, yn ystod y flwyddyn gan son yn arbennig am gyfraniad Angela Rees ac Elizabeth Davies i rwydd rediad yr holl weithgareddau. Cynhaliwyd y stondin Moes a Phryn arferol a gwnaed elw digon teg.

Sally Jones fydd y llywydd am y tymor nesaf gyda Deanna Hywel yn ysgrifenyddes a Tegwen Gibby yn drysorydd. Yr is-swyddogion fydd Anne Rees, Margaret reed a Neillan Morgan. Darparwyd gwledd gan aelodau’r pwyllgor i ddod a’r cyfarfod i ben.

Bu’r ymweliad a Maenordy Llancaiach Fawr yn llwyddiant ysgubol gyda rhyw 36 oedolion ac un baban (Branwen) yn manteisio ar ddiwrnod hyfyrd, hwyliog ac addysgiadol.

Swynwyd pawb gan ryfeddod y lle a’r tywysyddion brwdfrydig a ddaeth ag awyrgylch a naws yr ail ganrif a’r bymtheg yn wir fyw. Teithiwyd yn ol i Dafarn–y-Deri, Llanedi am bryd o fwyd, pawb yn fodlon ar ei byd! Cofier am y daith nesaf i’r ganolfan Technoleg Amgen ger Machynlleth (Mehefin 13). Eto cysyllter ag Elizabeth mor gynted ag sydd bosibl.

Eleni eto bydd angen Stondin Bob Peth yn y Garnifal ar Awst y 6ed. Cefnogwch a mwynhewch!

Derbyniodd y gangen glod ar ffurf tarian yn y cyfarfod rhanbarth olaf. Cyflwynir y darian hon i’r gangen a ddangosodd y dynnydd mwyaf yn rhif yr aelodau yn ystod y tymor a aeth heibio. Felly os am gadw’r darian i’r flwyddyn nesaf rhaid fydd mynd ar ‘sgowt’ am aelodau newydd eto! Beth am dani ferched?