Er ein bod fel aelodau yn derbyn fod mis Medi yw dechrau tymor newydd, mae’n wir i ddweud fod yr aelodau wedi cwrdd yng Ngwesty’r Porth. Gan fod y cyntaf o’r mis yn disgyn ar ddydd Mawrth dyna ddechrau perffaith.

Groesawyd aelodau hen a newydd yn ol gan Mrs Mary Williams yr is gadeirydd. Cafwyd cwpaned o de a phancws a sgwrs fach.

Ar yr 15ed of fis Medi, treulioasom brynhawn yng nghywmni Mr Merfyn Gray o Gastell Newydd Emlyn.Digon yw dweud fod y gymradwyiaeth a gafodd ar y diwedd yn cyfleu y pleser a cafodd pawb. Diolchwyd iddo gan Mr Ray Jobias.

Y dydd canlynol i ffwrdd a ni a’r daith a drefnodd Mr Richard Davies, mewn bws moethus y brodyr Lewis o Rhydlewis. Aeth y bws a ni i Ogledd Cymru, Corris a chinio yng nghysgod y castell yng Nghaernarfon. Yn daith o ddwy awr ar tren trwy y rhanberth a elwir Ergri hyd at bedd Geleri i gyfarfod a’r bws.

Mrs Mary Williams yn datganu ein diolch i Richard a Diane ac i Brian am drefnu raffl.

Y cyfarfod nesaf fydd 13eg o Hydref yng nghwmni y Brawd Haydn Jones, Morlogws ar testun "Hwnt ac Yma". Cinio y Clwb ar Hydref 28ain.