Braint arbennig oedd cael cwmni y Prifardd Mererid Hopwood yng nghyfarfod cyntaf y tymor. Gwefreiddiwyd yr aelodau wrth iddi ddarllen ei cherddi, ac 'roedd ei rhagarweiniad a'i hesboniad ohonynt yn ei ffordd ddiymhongar a difyr, yn cyfoethogi ein gwerthfawrogiad o'r farddoniaeth.

Cyflwynwyd Mererid Hopwood gan Rhiannon Lewis a diolchwyd iddi gan Sara Evans. Noson fendigedig a chartrefol, bydd yn sefyll yn hir yn y cof fel un o uchafbwyntiau'r flwyddyn!

Bydd y cyfarfod nesaf ar nos Fawrth Hydref 13eg. Bwriedir ymweld á'r Amgueddfa Gwryglau gyda swper y cynhaeaf yn Nhy Te Cenarth i gloi'r noson. Pawb i gyfarfod ym maes parcio'r mart am 6.15.