Tivyside Advertiser - Memorials
Search Acknowledgements, Death Notices and In Memoriam within Ceredigion
I'm looking for celebrationsT MELFYDD GEORGE
Published on 13/03/2018
T. Melfydd George Hoffai Huldah a'r teulu ddiolch i bawb am eu caredigrwydd adeg colli Melfydd ddechrau Tachwedd llynedd. Diolch hefyd i bawb gyfrannodd mor hael yn enw Melfydd i 'Diabetes Cymru'. Codwyd y swm anrhydeddus iawn o £1205 ac mae hwn eisioes wedi ei dderbyn gan yr elusen yma oedd mor agos at galon Melfydd. Hoffwn fel teulu ddiolch i'r trefnwr angladdau Maldwyn Lewis am ei holl waith trefnus a thawel ar yr adeg anodd yna. Diolch hefyd i'r Parchedig Irfon Roberts am y gwasanaeth i'r teulu yn y ty a'r oedfa gyhoeddus yn festri Capel Penyparc. Rydym hefyd yn ddiolchgar i bawb rhoddodd gymorth yn yr oedfa a gyda pharatoi a gweini'r bwyd yn Neuadd Berkley.
Your tribute has been received.
Once your tribute has been approved by our moderators, it will appear on T MELFYDD GEORGE's notice.