Tivyside Advertiser - Memorials

Search Acknowledgements, Death Notices and In Memoriam within Ceredigion

I'm looking for celebrations
Death Notice

Edith Gwethelyn Phillips

Published on 11/04/2017

Phillips Edith Gwethelyn Yn dawel ar fore ddydd Gwener 7fed Ebrill 2017 tra yng nghwmni ei theulu a gofal arbennig staff Cartref, Henllan, hunodd Edith gynt o Bwlchygroes a Castellnewydd Emlyn yn 85 mlwydd oed; priod hoff y diweddar Alun, mam ofalus Marina, Janet, John ac Owen; mam-yng-nghyfraith parchus Myrfyn, Caroline a Janet; mamgu ( mam-mam) gariadus Anwen, Richard, Aled, Emyr, Hefin, Ifan, Rhodri a Mari; hen-famgu balch Rhys, Megan, Cian, Cai, Bobi, Cari, Dafydd, Jac, Mostyn a Isla; chwaer annwyl Tegwen a Mari ynghyd a'r diweddar Maggie a Vernon. Gwasanaeth Angladdol Cyhoeddus a Chladdedigaeth yng Nghapel Bwlchygroes ger Boncath, Sir Benfro ddydd Iau 13eg Ebrill am 11.30 o'r gloch. Plethdorch y teulu yn unig, cyfraniadau er cof os dymunir tuag at Cartref, Henllan a Meddygfa Emlyn trwy law yr Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-pal, Rhydlewis, Llandysul, SA44 5QH. Ffon 01239 851 005


Tributes

Create a tribute, leave a message or share a picture.